Côr Meibion Unedig
Yn ein cyngerdd Pres a Lleisiau bydd côr meibion o 200 o leisiau yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Artistig Proms Cymru, Owain Arwel Hughes CBE. Ceir manylion am y corau unigol fydd yn cymryd rhan isod.
Bydd y côr yn perfformio gyda band pres gorau cymru a’r byd, y Band Cory ar Nos Fercher Gorffennaf 26ain. I gael gwybodaeth lawn a repertorie y digwyddiadau, ewch i adran digwyddiadau y wefan yma

Côr Meibion Penybont
Sefydlwyd y côr meibion o 90 ym 1960 dan yr enw Côr Heddlu Penybont. Newidiwyd yr enw ym 1987 i Gôr Meibion Penybont a’r Cyffiniau. Yn 2006 symleiddiwyd yr enw i Gôr Meibion Penybont.
Dathlodd y côr ei benblwydd yn 50 yn 2010 ac enillodd Wobr Dinasyddiaeth gan Faer Cyngor Sir Bwrdeistref Pen y Bont ar Ogwr i gydnabod hanner can mlynedd o godi arian, gan godi dros £1 miliwn i elusennau.
Adlewyrchir ansawdd y côr yn ei lwyddiant cystadleuol rheolaidd, yn enwedig yn ddiweddar yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2014 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru pan enillodd Côr Meibion Penybont y wobr gyntaf yn 2004 yng Nghasnewydd gan ailadrodd y llwyddiant hwn yn Aberatwe yn 2006. Hefyd enillodd y côr wobr ‘Côr Meibion Gorau’ yn ngystadleuaeth Côr Cymru S4C yn 2005 a chyrraedd y rownd derfynol eto yn 2007.
Mewn gwirionedd mae gan y côr o Dde Cymru hanes hir o lwyddiant mewn cystadlaethau, gan ennill y Gwpan Aur yng Ngŵyl Gerdd a Drama Cheltenham yn 2006, a’r unig gôr Cymreig i ennill y dwbl ym 1991 yn y Concorso Internazionale Di Canto Corale, gŵyl nodedig a gynhelir yn Verona gydag 20 côr o 6 gwlad.
Yn ogystal â’i lwyddiant mewn cystadlaethau mae Côr Meibion Penybont yn gweld eu hunain yn gyntaf fel côr cyngerdd; ac maent yn falch o’u repertoire, sy’n cynyddu’n barhaol, o ddarnau clasurol a gwerin, emynau traddodiadol Cymraeg, emynau Negroaidd a chaneuon poblogaidd o’r sioeau cerdd.
Mae ymweliadadu’r côr dramor wedi ehangu repertoire y côr hefyd mewn nifer o ieithoedd, ac wedi cynnwys ymweliadau â gefeill-dref Penybont sef Langenau, Yr Almaen, ac ymweliadau ychwanegol â Berlin, Canada, Ffrianc, Jersey, Yr Eidal, Yr Iwerddon, Sbaen, Stuttgart, Ludwigsburg, Shwieberdingen, Weissacht-Flacht, Gogledd Iwerddon a Herogenborch yn Yr Iseldiroedd.
Mae Côr Meibion Penybont yn rhoi’r rhan fwayf o’u cyngherddau er budd elusennau. Mae’r cyfanswm a godwyd yn y cyngherddau hyn ers 1960 yn fwy na £1 miliwn. Hefyd, mae’r côr wedi perfformio gydag artistiaid Cymreig blaenllaw fel Katherine Jenkins, Max Boyce, Shan Cothi, Dennis O’Neill, Syr Willard White, Huw Edwards a Mike Doyle.

Côr Meibion Morlais
Mae hanes Côr Meibion Morlais yn mynd yn ôl i Chwefror 1928 pan gynhaliodd Mr Alfred Morgan noson o ddiddanwch yng Nghapel Ebenezer, Tylorstown, Rhondda gyda grŵp o ddwsin o gantorion gyda’r enw The Mustard Club.
Cymaint oedd llwyddiant cyngerdd y Mustard Club nes y penderfynodd ‘Alfie’ Morgan i greu Côr parhaol gan ddewis yr enw ‘Morlais Glee Singers’, a ddefnyddiwyd tan 1970 pan newidiwyd yr enw i Gôr Meibion Morlais.
Dan gyfarwyddyd Alfie Morgan, sefydlodd y Morlais ddau draddodiad o fenter a llwyddiant, traddodiadau sydd wedi parhau hyd y dydd heddiw. ERbyn 1931 roedd y Côr newydd yn ennill gwobrau mewn Eisteddfodau ac roedd gofyn mawr amdano ledled Cymru a de lloegr.
Yna, ym 1932 dechreuodd y Côr gyfres o Gyngherddau Blynyddol yng Nglyn Rhedynog (Ferndale) gydag artistiaid o enwogrwydd rhyngwladol – Y Fonesig Gwyneth Jones, Heddle Nash a Stuart Burrows, i enw tri yn unig. Mae Cyngherddau Blynyddol y Morlais wedi parhau hyd heddiw yn ddistop.
Symudodd Alfie morgan o’r Rhondda ym 1939 a’r arweinydd nesaf oedd Trevor lewis (1939-56), Neil Johnson (1981-5) a John Asquith (1986-). Llwyddodd y Côr i barhau trwy gydol yr Ail Ryfel Byd ac wedi’r rhyfel ymddangosodd mewn digwyddiadau mor wahanol â Phasiant Cymru ym 1951 a chyngerdd i’r carcharorion yng ngharchar Caerdydd yn nes ymlaen yr un flwyddyn!
Ym 1962, ymwelodd y Morlais â Stuttgart, y cyntaf o gyfres hir o deithiau dramor. Ar ddiwedd y cyngerdd olaf yn Liederhalle, Stuttgart, cyflwynodd Cymdeithas Corau De’r Almaen y Morlais â Medal Wilhelm Nagel, gwobr am lefel uchel o berfformiad: fe’i harddangosir o hyd yn Neuadd Morlais.
Gan ddechrau ym 1978, trefnodd Côr Meibion Morlais, ddyddiau Gala ym Marc Darren gwych Glyn Rhedynog. Gwnaeth Galas y Morlais nid yn unig godi arian i’r Côr ond hefyd ddarparu dyddiau hynod bleserus i bobl Glyn Rhedynog. Yn anffodus, roedd cost gynyddol llwyfannu’r fath ddigwyddiadau wedi golygu na ellid parhau’r Galas ar ôl 1991.
Ym 1981 prynodd y Côr Gapel Annibynnwyr Saesneg, Heol y Gogledd, Glyn Rhedynog a’i droi yn le i ymarfer. Roedd angen llawer o waith i wneud yr adeilad yn addas ac roedd rhaid aros tan 1982 cyn symud i mewn. Ailenwyd yr adeilad yn ‘Neuadd Morlais’ ac mae wedi dod yn adnodd gwerthfawr i lawer o grwpiau a chymdeithasau lleol yn yr ardal. Mae Neuadd yn gartref parhaol i’r Côr i ymarfer ac i gynnal cyngherddau bach ac hefyd yn fan i groesawu cerddorion sy’n ymweld â’r wlad, yn fwyaf diweddar Ensemble Canu a Dawnsio’r Cossack o Rwsia a’r Coro Cum Jubilo o ogled Sbaen.
Yn 2010-2011 derbyniodd y Morlais Gronfa Blaenau’r Cymoedd Llywodraeth Cymru sy’n grant sylweddol tuag at gostau adnewyddu Neuadd Morlais, sydd wedi ei thrawsnewid yn neuadd gyngerdd fodern, olau, ynghyd ag ystafell gyfarfod, cegin a llyfrgell gerddoriaeth dan yr un to. Defnyddir yr adeilad gan lawer o sefydliadau lleol yn rheolaidd ac mae’r cyfleusterau technegol newydd, yn cynnwys cyfarpar goleuo a sain moderm hefyd wedi ei gwneud yn bosibl i’r Neuadd ddod yn Ysgol Ddrama i Bobl Ifanc Rhondda lwyddiannus iawn.
Dros y blynyddoedd mae Côr Meibion Morlais wedi bod yn ffodus i recriwtio cantorion brwfrydig a ffyddlon sydd wedi sicrhau goroesiad y côr trwy ddegawdau cythryblus o golli gwaith, rhyfel a newid cymdeithasol. Mae ffashiwn mewn cerddoriaeth yn mynd a dod ond nid yw’r llinyn mwynhad a chyflawniad erioed wedi torri ac mae mor gryf ag erioed wrth i ni wnynebu heriau’r dyfodol: mae hanes y Morlias ymhell o fod drosodd.

Côr Meibion Bro Ogwr
Mae Côr Meibion Bro Ogwr yn gôr gweddol ifanc gan iddo gael ei sefydlu ym 1982. Fodd bynnag, ers hynny mae’r côr wedi bod yn brysur iawn yn teithio i Ganada, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Yr Eidal, Sbaen, Ffrainc a Chroatia.
Cymerodd y côr ran yn y ffilm Very Annie Mary gyda Jonathan Pryce yn serennu, mae wedi perfformio’r gerddoriaeth agoriadol i’r ffilm Dirty Sanchez ac wedi bod yn artistiaid gwestai yn cefnogi Merril Osmond.
Mae’r côr yn perfformio’n rheolaidd ledled y DU ac Ewrop ac wedi cynhyrchu sawl CD ac mae’n falch o’i neuadd gyngerdd ei hun yn y gymuned leol.
Mae rhai o’r lleoliadau nodedig mae’r côr wedi perfformio ynddynt yn cynnwys Castell Caerdydd, Canolfan Mileniwm Caerdydd, Parc yr Arfau Caerdydd, Castell Craig y Nos, Neuadd Albert yn Llundain, Neuadd Dewi Sant, Arena MEN Manceinion, Basilica Montserrat (Sbaen), Eglwys Sirmione Llyn Garda (Yr Eidal), Marseillan (Ffrainc), Marylake Shrine (Toronto), Eglwys yn Sorrento (Yr Eidal), Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Torrevieja (Sbaen) a Lloret de Mar (Sbaen), Eglwys Kutina Latvia (Croatia) ac Academi Gerdd Karlovac (Croatia).
Mae’r côr yn edrych ymlaen yn fawr at berfformio yn Proms Cymru am y tro cyntaf yng Ngorffennaf 2017.

Bydd y côr meibion 200 llais yn cymryd rhan, ynghyd â band pres gorau Cymru a’r byd, Band Cory, yn y cyngerdd dathlu Pres a Lleisiau ar Nos Fercher Gorffennaf 26ain.
I gael manylion llawn a’r repertorie, ewch i adran digwyddiadau y wefan yma