David Childs, Ewffoniwm
“Cerddor ardderchog o’r radd flaenaf. Mae’n destun llawenydd i ysgrifennu gwaith ar ei gyfer ac i offeryn mor brydferth a hyblyg.”
- Syr Karl Jenkins OBE
Dywedodd y Brenin Edward III unwaith, “Os ydych am hyfforddi gŵr bwa hir, dechreuwch gyda’i daid.” Mae hyn yr un mor wir am yr unawdydd ewffoniwm Prydeinig David Childs a anwyd ym 1981 i deulu sydd â’u henw’n gyfystyr ag offerynau pres am y ddwy genhedlaeth ddiwethaf. Roedd ei daid, John, yn chwaraewr ewffoniwm uchel ei barch o Gymoedd De Cymru a ysbrydolodd ei feibion Robert a Nicholas i chwarae’r ewffoniwm hefyd.
Dechreuodd Robert addysgu ei fab, David, o oedran cynnar iawn ac yn y blynyddoedd diweddar mae David wedi dod i’r amlwg fel un o unawdwyr pres gorau ei genhedlaeth.
Yn 2000 torrodd dir newydd i’r ewffoniwm trwy ddod yr unawdydd ewffoniwm cyntaf i ennill rownd derfynol pres ‘Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC’ a arweiniodd at David yn perfformio, i ganmoliaeth uchel, Consierto i’r Ewffoniwm gan Philip Wilby am y tro cyntaf yn y byd gyda Cherddorfa Philharmonig y BBC dan Yan Pascal Tortelier. Yn yr un flwyddyn enillodd David y teitl clodfawr ‘Chwaraewr Ewffoniwm y Flwyddyn’, teitl a enillodd eto yn 2004 ac mae’n parhau i’w ddal hyd heddiw. Ers yr adeg honno mae David wedi bod yn fodd i godi proffil yr ewffoniwm ym myd cerddoriaeth glasurol ac nid yw wedi pallu rhyfeddu ei gynulleidfaoedd gyda’i dechneg anhygoel, ei gerddgarwch hwyliog a’i bresenoldeb llwyfan hyfryd.
Er ei fod megis dechrau ar ei yrfa mae David wedi teithio ymhell gan berfformio fel unawdydd yn Awstralia, Seland Newydd, y Dwyrain Canol, Siapan, Hong Kong, Ewrop ac UDA. Mae’n ladmerydd awyddus o gerddoriaeth newydd ac wedi chware deg consierto i’r ewffoniwm am y tro cyntaf yn cynnwys darllediad Proms y BBC o Neuadd Frenhinol Albert o ‘'Sunne Rising - The King Will Ride’ gan Alun Hoddinott, perfformiad cyntaf yn Neuadd Carnegie o ‘Consierto i Ewffoniwm a Cherddorfa’ gan Jenkins a pherfformiad cyntaf yn y DU o ‘Coniserto i Ewffoniwm a Cherddorfa’ gan Christian Lindberg wedi ei gyfarwyddo gan y cyfansoddwr. Mae hefyd wedi ymddangos yn y cylchgronau, Classic FM, Gramophone, Classical Music, a MUSO.
Mae David wedi ymddangos fel unawdydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymreig y BBC, Cerddorfa Philharmonig Frenhinol, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, Cerddorfa Gyngerdd RTE, Cerddorfa Phiharmonig y BBC, Camerata Cymru, Sinfonia Cymru, Cerddorfa Siambr Cymru a Cherddorfa Symffoni DCINY; mae wedi bod yn unawdydd yng Ngŵyl Ryngwladol Singapôr, Proms Cymru, Gŵyl Ryngwladol Harrogate, Gŵyl Cheltenham, Gŵyl Ryngwladol Melbourne, Proms y BBC a Gŵyl Efrog Newydd; wedi perfformio datganiadau fel unawdydd yn Neuadd Wigmore, Yatafell Purcell a Neuadd Bridgewater; wedi rhoi perfformiadau Consierto yn y Concertgebouw, Neuadd Carnegie, Neuadd y Frenhines Elizabeth, Neuadd Symffoni, Canolfan Lincoln Efrog Newydd a Neuadd Frenhinol Albert, Llundain; ac mae’n recordio’n rheolaidd fel unawdydd ar gyfer y radio, teledu a disgiau masnachol.
Er ei fod wedi cyflawni llawer fel unawdydd ewffoniwm mae David hefyd wedi derbyn anrhydeddau o gydnabyddiaeth: Medal Arian o’r Worshipful Company of Musicians; Gwobr Seren gan Iarlles Munster; Gwobr Musicians Benevolent Syr Charles Leggett; Gwobr Leo Abse a Cohen Urdd Cerddoriaeth Gymreig; Unawdydd Radio Wales y BBC a Gwobr Harry Mortimer am Gyflawniad Rhagorol, ymysg eraill. Yn dilyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd y Gogledd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mae David bellach yn aelod Cyswllt Coleg Brenhinol Cerdd Llundain; yn Athro yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Chonservatoire Birmingham; yn Artist ar gyfer y Buffet Group Besson, Alliance and Reunion Blues; ac yn Gyfarwyddwr cwmni cyhoeddi Prima Vista Musikk.
Mae David yn teimlo’i fod yn gynnyrch balch o symudiad y bandiau pres Prydeinig ac mae wedi perfformio gyda llawer o brif bandiau pres y byd yn cynnwys Brighouse a Rastrick, Black Dyke a Cory ble roedd yn brif chwaraewr ewffoniwm am 10 mlynedd. Ef yw sylfaenydd y pedwarawd pres llwyddiannus iawn Eminence Brass ac yn Gyfarwyddwr Artistig prif gerddorfa chwythbrennau Cymru Cardiff Symphonic Winds.
Yn ddiamau mae David yn arwain y ffordd ar gyfer chwaraewyr ewffoniwm yn fyd-eang. Trwy ei berfformiadau ei hun mae’n parhau i arddangos yr ewffoniwm fel offeryn unawd difrifol o fewn y byd cerddoriaeth glasurol. Yn ddiweddar rhyddhaodd Chandos ei recordiad mwyaf diweddar 'The Symphonic Euphonium' gyda Cherddorfa Gendlaethol Cymreig y BBC a Bramwell Tovey, yn perfformio consiertos gan Hoddinott, Horovitz, Karl Jenkins a Philip Wilby.
Ceir mwy o wybodaeth am David Childs ar ei wefan swyddogol www.davechilds.com

Bydd David Childs yn perfformio yn Noson Olaf Proms Cymru ar Nos Sadwrn Gorffennaf 29ain yn y perfformiad cyntaf yn y byd o Gonsierto i’r Ewffoniwm gan Paul Mealor yn ogystal â gweithiau ychwanegol gyda’r Gerddorfa Philharmonig Frenhinol. I gael manylion llawn a’r repertoire ewch i adran digwyddiadau y wefan yma