John Lill CBE, piano
Astudiodd Lill yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda Wilhelm Kempff. Daeth ei ddawn i’r amlwg pan yn ifanc iawn, gan iddo roi ei ddatganiad piano cyntaf yn naw oed. Yn ddeunaw oed perfformiodd 3ydd Consierto Rachmaninoff i’r piano dan Syr Adrian Boult. Dilynwyd hyn gan ei berfformiad cyntaf yn Llundain ym 1963 yn chwarae 5ed Coniserto Ludwig Van Beethoven yn y Royal Festival Hall. Ym 1970 enillodd Cystadleuaeth Tchaikovsky Ryngwladol Moscow (ex-aequo gyda Vladimir Krainev). Dywedodd Sidney Harrison bod John Lill “yn traflyncu Beethoven. Gosodais waith iddo am yr wythnos – mae’n gwneud hynny a mwy.”
Mae Lill wedi cynhyrchu llawer o recordiau, yn cynnwys holl gonsiertos Beethoven, Brahms a Rachmaninoff i’r piano a holl sonatas piano gan Beethoven a Prokoviev.
Mae Lill wedi perfformio mewn dros hanner cant o wledydd, fel datganydd ac fel unawdydd consierto. Mae wedi gweithio ym mhrif ddinasoedd cyngerdd Ewrop, yn cynnwys Amsterdam, Berlin, Paris, Prâg, Rhufain, Stockholm a Fiena, yn ogystal â Rwsia, y Dwyrain Pell ac Awstralasia (yn cynnwys sawl taith Corfforaeth Ddarlledu Awstralia). Mae hefyd wedi perfformio yn yr Unol Daleithiau gyda Cherddorfeydd Symffoni Cleveland, Efrog Newydd, Philadelphia, Dallas, Seattle, Baltimore, Boston, Washington DC a San Diego.
Mae ei repertoire yn cynnwys mwy na saith deg consierto, ac mae clod mawr iddo yn enwedig fel dehonglwr blaenllaw Beethoven, ac mae wedi perfformio’r cylch sonata cyfan ar sawl achlysur yn y DU, yr UDA a Siapan. Ym Mhrydain, mae wedi rhoi dros 30 o gyngherddau Promenâd y BBC ac mae’n ymddangos yn rheolaidd gyda’r holl Gerddorfeydd Symffoni. Mae wedi teithio dramor gyda Cherddorfa Symffoni Llundain (LSO), Cerddorfa Philharmonig Llundain, Cerddorfa Symffoni’r BBC, CBSO, Hallé, Cerddorfa Genedlaethol Frenhinol Yr Alban (RSNO) a Cherddorfa Symffoni BBC Yr Alban.
Mae Lill wedi recordio i Deutsche Grammophon, EMI (holl gonsiertos piano Beethoven gyda’r RSNO a Gibson), ASV (dwy gonsierto piano Brahms gyda’r Hallé a Loughran) yn ogystal â holl sonatas Beethoven a Chonsierto 1 gan Tchaikovsky gyda’r LSO a Judd. Yn fwy diweddar mae wedi recordio holl sonatas Prokoviev i ASV ac mae ei recordiad diweddar o holl Bagatelles a Chonsiertos piano Beethoven gyda’r CBSO a Weller ar gael ar Chandos.
Recordiodd Ffantasi ar Thema John Field gan Malcolm Arnold (wedi ei gyflwyno i John Lill) gyda’r Gerddorfa Philharmonig Frenhinol a Vernon Handley i Conifer. Mae hefyd wedi recordio holl gonsiertos Rachmaninoff a gweithiau unawd i’r piano i Recordiau Nimbus. Ei brosiect recordio mwyaf diweddar i ddathlu ei benblwydd yn 60 yw gweithiau i’r piano gan Schumann ar label Classics for Pleasure a recordiadau newydd o Schumann, Brahms a Haydn i Signum.
Mae John Lill yn byw yn Llundain. Gwnaethpwyd yn OBE ym 1978 ac yn CBE am ei wasanaeth i gerddoriaeth yn Rhestr Anrhydeddau y Flwyddyn Newydd yn 2005.

Bydd John Lill yn ymddangos yn Campweithiau yn 32ain tymor Proms Cymru ar Nos Fawrth Gorffennaf 25ain gan berfformio consierto Rhif 2 i’r Piano gan Rachmaninoff gyda’r Gerddorfa Philharmonig Frenhinol. Am wybodaeth lawn a repertoire ewch i adran digwyddiadau y wefan yma