Venue Proms Cymru
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
Ynghanol Caerdydd, prifddinas Cymru, Neuadd Dewi Sant yw Neuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chanolfan Gynadledda Genedlaethol Cymru. Mae yma amrywiaeth eang o adloniant byw, arddangosfeydd am ddim, cynadleddau, gweithdai cyfranogol, dau far ac amrywiaeth o leoedd i fwyta, staff cymwynasgar ac amgylchfyd hamddenol ac mae Neuadd Dewi Sant yn adeilad i’w fwynhau liw dydd a chyda’r nos trwy’r flwyddyn gron.
Neuadd Dewi Sant yw cartref Proms Cymru, y Gyfres Cyngherddau Cerddorfaol sydd gyda goreuon y byd ac sy’n rhoi llwyfan i gerddorfeydd, unawdwyr ac arweinwyr blaenllaw’r byd, a chystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd bob dwy flynedd, ac mae’n cyflwyno lliaws o adloniant byw, gan gynnwys pop, roc, canu gwerin, jazz, rhythm a’r blŵs, comedi, sioeau plant, cyngherddau awr ginio, dramâu cerdd, adloniant ysgafn, dawns, cerddoriaeth y byd, ffilmiau a cherddoriaeth glasurol. Fodd bynnag, mae Neuadd Dewi Sant yn fwy na neuadd gyngerdd yn unig - a chanddi gynteddau eang, dau far lolfa arddangosfeydd rheolaidd a chynadleddau cwmni blynyddol, ac mae rhywbeth yn digwydd yma bron bob diwrnod o’r flwyddyn!
I’r penseiri Seymour Harris Partnership roedd cynllunio Neuadd Dewi Sant yn gomisiwn anghyffredin, os nad unigryw, am sawl rheswm. Y brif her oedd sut i ddarparu neuadd gyngerdd fawr â 2,000 o seddi yn y lle cyfyng oedd ar gael ac i gymhlethu hyn ymhellach roedd rhaid gwasgu’r adeilad i ganolfan siopa oedd eisoes wedi’i chynllunio ac ar hanner ei chodi. Y canlyniad oedd, yn anghredadwy, o fewn pum mlynedd i’r cysyniad hyd at ei chwblhau, adeiladwyd neuadd gyngerdd drawiadol â lle i 2,000 a chanddi, gellid dadlau, yr acwsteg orau yn Ewrop, a hynny yn union ar ben rhodfa siopa Canolfan Dewi Sant. Yn ogystal, mae gan yr adeilad swyddfeydd, ystafelloedd gwisgo cynhwysfawr, ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau cynadledda, arddangosfeydd ar dri llawr, a man croeso eang.
Roedd hydref 1982 yn adeg cynhyrfus yn y Neuadd Dewi Sant newydd. Denodd y ‘diwrnod agored’ arbennig ar 30 Awst 1982, 21,000 o bobl; naw niwrnod yn ddiweddarach perffromiwyd y cyngerdd cyhoeddus cyntaf, ymarfer agored am ddim gan Gôr Polyffonig Caerdydd. Erbyn i’r Fam Frenhines berfformio’r agoriad swyddogol ym mis Chwefror 1983, gyda Owain Arwel Hughes yn arwain, roedd Neuadd Dewi Sant eisoes wedi gweddnewid bywyd artistig y Brifddinas. Ys dywedodd Ei Mawrhydi, ‘Bydd y datblygiad cyffrous hwn yn ychwanegu llawer at ansawdd bywyd yn ninas Caerdydd ac i bobl y Dywysogaeth.’
Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn cynnig adloniant, chwaraeon, lleoedd i fwyta, cyfleusterau hamdden, lleoedd o ddiddordeb i ymweld â hwy a digwyddiadau o bwys yn rheolaidd, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae Neuadd Dewi Sant yn parhau i fod yn un o’r lleoliadau blaenllaw yn natblygiad diwylliannol a pharhaol Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf cosmopolitaidd yn Ewrop.
Ceir mwy o wybodaeth am Neuadd Dewi Sant yn www.neuadddewisantcaerdydd.co.uk