• Cartref
  • Amdanom Ni
  • Lleoliad
  • Partneriaid
  • Tocynnau
  • Lawrlwythiadau
  • Cyfarwyddwr Artistig
  • Cysylltu
  • Neuadd Dewi Sant
  THE WELSH PROMS

Paul Mealor

Disgrifiwyd Paul Mealor fel ‘y cyfansoddwr mwyaf pwysig cerddoriaeth gorawl Cymreig ers William Mathias‘ (New York Times, 2001) a bod ei gerddoriaeth ‘wedi ei nodweddu gan rywbeth o’r tu allan iddo ef ei hun sy’n hyfryd o ofodol ac yn atgofus o’r tirwedd... mae’n goleuo ein gorffennol a’n dyfodol’ (The Guardian, 2011).

Roedd ar ben y Siartiau Clasurol am chwech wythnos gyda’i albwm a werthoedd yn wych A Tender Light (gyda Chôr Tenebrae a’r Gerddorfa Philharmonig Frenhinol) yn Nhachwedd 2011, a thorrodd record trwy fod y cyfansoddwr clasurol i fod ar frig y siartiau clasurol a phop ar yr un pryd yn Rhagfyr 2011, gan sicrhau Rhif 1 Nadolig y DU gyda’i ddarn ar gyfer Côr Y Gwragedd Milwrol a Gareth Malone, Wherever You Are. Aeth Wherever You Are i Rif 1 Siart Disgiau Sengl Pop y DU ar Ragfyr 19eg, gan werthu dros 556,000 mewn un wythnos, mwy na gweddill y Prif 10 gyda’i gilydd, a’i enwebu ar gyfer Sengl Gorau Prydain yng ngwobrau BRIT yn 2012. Fe’i enwyd gan y Cwmni Siartiau Swyddogol fel y sengl a werthodd gyflymaf ers cân Elton John Candle in the Wind. Hefyd yn Ebrill 2012 enillodd Mealor y bleidlais fel hoff gyfansoddwr y genedl yn ystod Hall of Fame Classic FM y DU.

Ganed Paul Mealor yn Llanelwy, Gogledd Cymru ym 1975 ac astudiodd gyfansoddi’n breifat fel bachgen gyda William Mathias a nes ymlaen gyda John Pickard, ac ym mhrifysgol Efrog gyda Nicola LeFanu (BA Anrh, 1997, PhD, 2002) ac yn Copenhagen gyda Hans Abrahamsen a Per Nørgård. Mae ei gerddoriaeth wedi ei gomisiynu a’i berfformio mewn llawer o wyliau a chan lawer o gerddorfeydd a chorau ac wedi ei ddarlledu ar bob prif orsaf Deledu a Radio ledled y byd. Ers Ionawr 2003 mae wedi addysgu yn Adran Gerdd Prifysgol Aberdeen ble mae’n Athro Cyfansoddi.

Enillodd Mealor statws seren rhyngwladol yn Ebrill 2011, pan glywodd 2.5 biliwn o bobl (y gynulleidfa fwyaf yn hanes darlledu) ei Motet, Ubi Caritas wedi ei berfformio gan gorau Abaty Westminster a Chapel Brenhinol Ei Mawrhydi, a’i arwain gan James O’Donnell yn Seremoni Priodas Frenhinol Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog William a Catherine Middleton (bellach Eu Huchelder Brenhinol Dug a Duges Caergrawnt) yn Abaty Westminster. Ers hynny mae wedi bod ar frig y siartiau sengl Clasurol yn UDA, y DU, Awstralia, Ffrainc a Seland Newydd.

Yng Ngorffennaf 2011, arwyddodd Mealor gyda Recordiau Decca ac arwyddodd ddêl gyhoeddi gyda Novello & Co. Treuliodd ei albwm gyntaf i Decca, A Tender Light – casgliad o anthemau cysegredig wedi eu recordio gan Tenebrae a’r Gerddorfa Phiharmonig Frenhinol – chwech wythnos yn Rhif 1 y Siartiau Clasurol Arbenigol. Ar hyn o bryd mae’n paratoi ei ail albwm i Decca ac mae wedi cyfrannu gweithiau newydd i sawl albwm Decca arall yn cynnwys ei gân In My Dreams i seren X factor, Jonjo Kerr, a aeth i rif un siartiau pop gan ddisodli Bruce Springsteen o’r brig; De Profundis ar gyfer Côr Siambr St Petersburg ar yr albwm Tranquillity (aeth hefyd i Rif 1 yn y Siartiau Clasurol yn Awst 2012), a’r gosodiad cerddorol cyntaf erioed o weddi Sant Ffransis, You Are The Holy Lord God i albwm gyntaf y Brawd Alessandro.

Ysgrifennodd Mealor nifer o weithiau ar gyfer Jiwbili Ddeimwnt EM y Frenhines Elizabeth ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau ei symffoni gyntaf Passiontide – gwaith mawr i soprano, baritôn, côr a cherddorfa – a berfformiwyd am y tro cyntaf ar benblwydd y cyfansoddwr yn 40 oed yn Nhachwedd 2015, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar nifer o ddarnau ar gyfer côr a cherddorfa. Mae newydd orffen ffilmio rhaglen ar gerddoriaeth Benjamin Britten ac wedi ymddangos ar raglen BBC 2, The Choir, yn ogystal ag ymddangos am y tro cyntaf yn Neuadd Carnegie gyda pherfformiad, oedd wedi gwerthu allan, o’i Stabat Mater gyda chôr a cherddorfa DCINY wedi ei arwain gan James Jordan.

Mealor yw Llywydd cyntaf ‘Ty Cerdd’ – Canolfan Genedlaethol Cymru ar gyfer hyrwyddo cerddoriaeth ac mae’n Is-Lywydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Gogledd Cymru. Ef yw cyfansoddwr preswyl prif gôr proffesiynol Canada, Pro Coro, ac mae’n Guradur yr ŵyl JAM on the Marsh yn Swydd Caint. Mae wedi derbyn llawer o anrhydeddau a gwobrau am ei gerddoriaeth yn cynnwys Cymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Bangor (2013) a Phrifysgol Glyndwr (2012) yn Wrecsam, a Gwobr Glanville Jones gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru, am ei gyfraniad neilltuol i gerddoriaeth yng Nghymru (2013). Fe’i apwyntiwyd yn Fwrdeisiwr Rhydd Dinas Aberdeen yn 2012 gan Arglwydd Provost Aberdeen, ac mae’n Llywydd a Noddwr llawer o sefydliadau Cymreig ac Albanaidd.

Perfformir Consiserto i Ewffoniwm gan Paul Mealor am y tro cyntaf yn y byd gyda’r Gerddorfa Philharmonig Frenhinol a’r Arweinydd Owain Arwel Hughes CBE ar Nos Sadwrn Gorffennaf 29ain yn Neuadd Dewi Sant. I gael manylion llawn a’r repertorie, ewch i adran digwyddiadau y wefan yma
www.welshpromscymru.com
  • Cartref
  • Amdanom Ni
  • Lleoliad
  • Partneriaid
  • Tocynnau
  • Lawrlwythiadau
  • Cyfarwyddwr Artistig
  • Cysylltu
  • Neuadd Dewi Sant